1 Ieuan Ior gwaewdan gwiwdad
2 Iawn fab Gruffvdd cythrudd câd
3 fab llywhelyn wyn wingaer
4 [92r] llwyd vnben wyd iawn ben aer
5 y nos arall naws arial
6 i bum i'th dy bo maith dal
7 nid hawdd er hynny hyd heddiw
8 hoen wymp i'm gaffel hvn wiw
9 dy aur a gawn radlawn rydd
10 dy loyw win dy lawenydd
11 dy fedd glas difaddev i gler
12 dy fragod dv ei friger
13 dy ferch gwn nas gordderchai
14 veinwen doed o'th faenwyn dai
15 Ni chysgais ni weais wawd
16 hvn nai dryll heiniav drallawd
17 duw lwyd pwy am dilea
18 dim yn fynghalon nid â
19 Eithr ei chariad tyladwy
20 O rhoid i'm oll ai rhaid mwy
21 Ni'm car hon ni'm cvria haint
22 Ni'm gad hvn o'm gad henaint
23 Rhyfedd gan ddoethion Rhvfain
24 Rhyfedded pryd fy myd main
25 [92v] Gwynnach nac eiry gwanwyn
26 Gweddw wyf o serch y ferch fwyn
27 Gwyn yw'r tâl dan y wialen
28 Du yw'r gwallt diwair yw gwen
29 Duach yw'r gwallt diochr gwydd
30 Na mwyalch neu y mvchwydd
31 Gwynder disathr ar lathrgnawd
32 Yn dvo'r gwallt iawnder gwawd
33 Nid an-nhebig ddiddig ddydd
34 Modd ei phryd medd ei phrydydd
35 i'r ferch hygar a garawdd
36 Y milwr gynt mawlair gawdd
37 Peredvr ddwysgvr ddisgwyl
38 fab Efrog gwrdd farchog gwyl
39 pan oedd yn edrych wych wawl
40 Yn yr eiry ion eryrawl
41 llenn assur ger llwyn essyllt
42 llwybr balch lle bu'r gwalch gyntgwyllt
43 yn lladd heb neb a'i lluddiai
44 mwyalch morwyn falch ar fai
45 Yno'r oedd iawn iawn
arwyddion
46 [93r] Pand Duw a'i tâl paentiad hon
47 mewn eiry gogyfvwch llvwch llwyth
48 modd ei thâl medd ei thylwyth
49 Asgell y fwyalch esgud
50 megis ei hael megais hvd
51 Gwaed yr edn gwedy r odi
52 Gradd havl mal ei grvddiau hi
53 felly mae evrgae organ
54 Dyddgu a'r gwallt gloywddv glan
55 Beirniad fvm gynt hynt hyntiaw
56 Barned Rhawd o'r beirniaid draw
57 Ai hywaith fy nyhewyd
58 Imi fy myw am fy myd
Da' ap Glm'